Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir
26 Ionawr 2015
CLA486 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 Rhif 326 (W.39) a rheoliad 9 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 Rhif 1979 (W.140). Mae’r Rheoliadau’n gweithredu’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chofrestru yn y gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor o 1 Ebrill 2015.